Tamaid o ddata yw 'cwci', a gaiff ei anfon o’r wefan i gyfrifiadur y defnyddiwr a’i gadw ar y cyfrifiadur gan y porwr gwe tra mae’r defnyddiwr ar y we. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan sy'n defnyddio cwcis am y tro cyntaf, mae’r cwci’n cael ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur/dyfais symudol er mwyn i’ch dyfais gofio gwybodaeth ddefnyddiol y tro nesaf y byddwch yn ymweld, fel pa eitemau sydd yn eich basged siopa, pa dudalennau yr ydych wedi edrych arnyn nhw, neu eich manylion mewngofnodi.
Mae’r defnydd o gwcis yn gyffredin iawn i wneud i wefannau weithio neu i’w gwneud yn fwy effeithlon, ac mae ein gwefan yn dibynnu ar gwcis i roi’r profiad gorau i’r defnyddiwr ac er mwyn i’r nodweddion a’r gwasanaethau ar y wefan weithio’n iawn.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu ichi reoli neu rwystro cwcis i ryw raddau gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr, ond os byddwch chi'n rhwystro cwcis gallai effeithio ar eich gallu i ddefnyddio rhannau penodol o'n gwefan neu ein gwasanaethau. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, ewch i https://www.aboutcookies.org.
Pa gwcis ydyn ni'n eu defnyddio ar ein gwefan?
Dadansoddeg Google
Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i Lantra gyfrif sawl ymweliad y mae’r wefan yn ei gael ac o ble daw’r ymwelwyr, a hynny er mwyn i ni fesur a gwella perfformiad ein gwefan. Maent yn ein helpu i wybod pa dudalennau yw'r mwyaf a'r lleiaf poblogaidd ac i weld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein safle. Mae'r holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu yn cael eu cyfuno ac felly'n ddienw. Os nad ydych yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fyddwn yn gallu gweld pryd y gwnaethoch ymweld â’r wefan, ac ni fyddwn yn gallu monitro perfformiad y wefan na gwneud gwelliannau.