Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.wales.lantra.co.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Lantra. Rydym eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd, a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml ag sy’n bosibl.
Mae gan AbilityNet gyngor am sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Mae rhai problemau gyda chyferbynnedd ar droed y dudalen, ac mae angen i ni roi sylw i hyn i helpu pobl â golwg gwael.
- Mae angen gwella strwythurau penawdau ein tudalen newyddion i helpu’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin.
- Mae rhai mân broblemau gyda thabiau a thag ARIA
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os bydd arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost i awards@lantra.co.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich ateb ymhen 3 diwrnod gwaith.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch ni ar 02476 696 996 neu e-bostiwch awards@lantra.co.uk i gael cyfarwyddiadau.
Dweud am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon trwy’r adeg. Os gwelwch unrhyw broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon, neu os tybiwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â awards@lantra.co.uk a byddwn yn edrych ar hyn.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dysgwch sut i gysylltu â ni yn www.lantra.co.uk/contact
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Lantra wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae ychydig o destun a delweddau ar droed y wefan yn anodd eu gweld gan fod y cyferbynnedd yn isel, felly ni all pobl â golwg gwael gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.1 (Cyferbynnedd).
Mae mân broblem gyda thagiau Aria (rôl ar goll) ac mae angen ailstrwythuro Penawdau ar y templedi Newyddion, sy’n golygu y gallai defnyddwyr technoleg gynorthwyol fel darllenwyr sgrin gael trafferth deall cyd-destun rhywfaint o gynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli)
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon erbyn diwedd mis Mawrth 2023.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 26 Awst 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 25 Awst 2022. Cynhaliwyd y prawf gan IE Digital.