Mae'r prosiect hwn bellach wedi dod i ben.
Roedd AgriStart yn brosiect peilot a gynhaliwyd gan Lantra yn 2024 ac a ariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys.
Nod y prosiect oedd helpu unigolion rhwng 16 a 40 mlwydd oed ym Mhowys nad oeddent o gefndir ffermio i ddod yn fwy cyflogadwy yn y sector tir, a hynny trwy eu cefnogi i gwblhau cyrsiau hyfforddi achrededig.
Mae'r prosiect wedi cefnogi 165 o leoedd hyfforddi gyda ardystiadau achrededig wedi eu hennill mewn cyrsiau fel:
- Cerbydau pob tir
- Gyrru Tractor
- Trin Da Byw
- Cyrsiau llif gadwyn
Mae'r prosiect wedi helpu unigolion i ennill mwy o sgiliau, bod yn fwy diogel wrth weithredu peiriannau ac offer, ac wedi’u gwneud yn fwy cyflogadwy ym meysydd amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth.