Gwasanaeth Paru Sgiliau

Tractor and Cow

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod ein busnesau gwledig a seiliedig ar y tir allweddol – gan gynnwys ffermydd a busnesau sydd â chyfrifoldebau lles anifeiliaid – yn gallu cael mynediad at weithwyr allweddol ac yn parhau i weithredu.

Er mwyn bodloni’r angen hwn, rydym yn creu Gwasanaeth Paru Sgiliau a fydd yn rhoi busnesau a gweithwyr posibl, sydd â’r sgiliau a’r profiad perthnasol, mewn cysylltiad â’i gilydd..

Byddwn yn hidlo’r ymgeiswyr gan gymharu eu sgiliau allweddol gyda’r rhai sydd eu hangen ar y busnesau, a bydd hyn yn ei gwneud yn haws i gyflogwyr a gweithwyr ganfod ei gilydd.

Cliciwch ar un o’r dolenni canlynol i ymuno â’n gwasanaeth paru sgiliau:

Os byddai’n well gennych gwblhau’r ffurflenni dros y ffôn, gallwch gael cymorth drwy Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813

Oes gennych chi gwestiwn? Ewch i'n rhestr lawn o Gwestiynau Cyffredin i gael mwy o wybodaeth.