Cwestiynau Cyffredin
- 1. Pam fod Lantra wedi datblygu'r gwasanaeth hwn?
-
Yn sgil yr achos diweddar o COVID-19 a'r ffaith bod gwaharddiad ar unrhyw symud drwy’r wlad, mae yna bryderon y gallai amaethyddiaeth a garddwriaeth yng Nghymru wynebu prinder gweithwyr.
Pe bai aelod o deulu ffermio neu un o weithwyr y busnes yn mynd yn sâl, mae'n debygol y byddai nifer o aelodau'r teulu / gweithwyr yn mynd yn sâl oherwydd natur yr amgylchedd gwaith a'r ffordd y mae'r clefyd yn lledaenu. Byddai hynny’n golygu na fyddai modd gorffen tasgau bob dydd. Gallai hyn gael effaith andwyol ar y busnes yn ogystal â phroblemau difrifol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Hefyd, mae’n bosibl y bydd prinder cneifwyr defaid / contractwyr dipio defaid / pobl i drimio traed anifeiliaid / technegwyr AI / casglwyr ffrwythau / milfeddygon gan fod yr unigolion hyn yn symud o fferm i fferm mewn llai na 14 diwrnod, sy’n golygu y gallai fod ag oblygiadau difrifol i iechyd yn ogystal â lledaenu'r clefyd.
- 2. Ble alla i gael gwybodaeth am y gwasanaeth hwn?
-
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaeth a'r ffurflenni cais ar wefan Lantra Cymru:
https://www.wales.lantra.co.uk/cy
Mae dwy ffurflen gais ar wahân, un ar gyfer unigolion sy'n chwilio am waith, ac un ar gyfer busnesau sy'n chwilio am lafur ychwanegol.
- 3. Pwy ddylai gyflwyno cais?
-
Gall unrhyw fusnes amaethyddol neu arddwriaethol, neu bractis milfeddygon sy'n gweithio yng Nghymru, sy’n brin o staff ac sy'n chwilio am gymorth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn, lenwi'r Ffurflen Gais ar gyfer Busnes.
https://www.wales.lantra.co.uk/cy/node/2776
Gall unrhyw unigolion a allai fod yn chwilio am waith, pobl sydd wedi’u rhoi ar ffyrlo a myfyrwyr nad ydynt mewn addysg ar hyn o bryd, gyflwyno'r Ffurflen Gais ar gyfer Darpar Weithiwr.
https://www.wales.lantra.co.uk/cy/node/2775
- 4. A oes rhaid i'r ffurflenni cais gael eu llenwi ar-lein?
-
Mae'r ffurflenni cais yn syml iawn ac yn hawdd eu llenwi, ond os nad yw’n bosibl i unigolyn neu fusnes fynd ar-lein, yna bydd modd cael cymorth i lenwi'r ffurflenni dros y ffôn drwy Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.
Cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 0845 6000 813 i gael cymorth.
- 5. Pa fath o wybodaeth y mae angen i mi ei darparu?
-
Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd ddarparu manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad cartref, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Os nad oes gan ymgeisydd gyfeiriad e-bost bydd yn dal yn bosibl llenwi'r ffurflenni.
Bydd angen i unigolion sy'n chwilio am waith roi gwybod i ni pa sgiliau sydd ganddynt, pa dasgau y maent yn barod i'w gwneud, os ydynt yn chwilio am waith rhan-amser neu lawn-amser, pa mor bell y maent yn fodlon teithio i ddod o hyd i waith ac os ydynt yn fodlon adleoli os gellir darparu llety.
Bydd angen i fusnesau sy'n chwilio am lafur ychwanegol nodi'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r tasgau, nifer yr oriau gwaith sydd eu hangen, y tâl a pha hyfforddiant sydd ar gael.
- 6. Sut fydda i'n gwybod os yw fy nghais wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus?
-
Dim ond ceisiadau sydd wedi ticio'r blwch caniatâd ar dudalen olaf y ffurflen gais y gall Lantra eu prosesu. Mae hyn yn rhoi caniatâd i Lantra gysylltu â'r unigolyn neu'r busnes.
Os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost, ac wedi ticio’r ffurflen ganiatâd, ar ôl ei chyflwyno byddwch yn derbyn e-bost awtomatig i gadarnhau ein bod wedi derbyn yr wybodaeth yr ydych wedi'i chyflwyno.
- 7. Sut mae Lantra yn paru unigolion a busnesau?
-
Unwaith y caiff ffurflen ei chwblhau a'i chyflwyno, bydd Lantra yn lawrlwytho'r wybodaeth ac yn mynd ati i baru gweithwyr a chyflogwyr addas.
Gwneir hyn drwy edrych ar addasrwydd set sgiliau, lleoliad ac argaeledd.
Ar ôl paru gweithiwr a chyflogwr posibl, cysylltir â'r busnes i roi gwybod bod rhai parau addas ar gael ac i ofyn a hoffent i ni roi eu manylion cyswllt i'r unigolyn i drefnu cyfweliad dros y ffôn.
Ar yr un pryd, cysylltir â'r unigolyn i roi gwybod iddo neu iddi fod swydd wag addas wedi ei chanfod a chynnig opsiwn i anfon manylion cyswllt y cyflogwr ymlaen atynt.
Yr unigolyn fydd yn gorfod cysylltu â'r busnes i drefnu cyfweliad / sgwrs dros y ffôn i gadarnhau bod y paru’n addas.
- 8. Sut y bydd Lantra yn gwybod a fu'r paru’n llwyddiannus?
-
Bydd Lantra yn cysylltu â'r cyflogwyr a'r gweithwyr bythefnos ar ôl bod mewn cysylltiad â nhw i benderfynu a oedd y paru’n llwyddiannus ai peidio. Gellir rhoi cymorth pellach ar yr adeg hon os oes angen.
- 9. Faint mae'n ei gostio?
-
Mae'r Gwasanaeth Paru Sgiliau ar gael am ddim a does dim bwriad iddo fod yn debyg i ymgynghoriaeth recriwtio. Yn hytrach, dyma ein ffordd ni o helpu ein sector i lenwi’r bylchau mewn sgiliau a allai ddod i'r amlwg yn ystod yr argyfwng parhaus. Ceisiwn helpu i sicrhau bod y rhai sydd â'r sgiliau angenrheidiol yn cael eu cysylltu â'r cyfleoedd mwyaf priodol
- 10. Oes gwasanaethau eraill fel hyn ar gael?
-
Oes, mae gwasanaethau eraill ar gael.
Mae Pick for Brtain yn helpu i ddod â gweithwyr a chyflogwyr at ei gilydd ac yn sicrhau y gall y DU barhau i gyflenwi ffrwythau a llysiau gorau Prydain i bawb eu mwynhau. Yma, byddwch yn dod o hyd i recriwtwyr yn eich ardal leol, o ffermydd ffrwythau a llysiau unigol i asiantaethau recriwtio cenedlaethol sydd â chyfleoedd gwaith ar hyd a lled y wlad.
https://pickforbritain.org.uk/