woodland site for planting trees

Mae Lantra yn bodoli i helpu ein diwydiannau i ddeall eu hanghenion sgiliau yn well a’u bodloni. Rydym yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth i:

  • Ddenu a chadw gweithlu amrywiol a chymwys yn y diwydiant
  • Hyfforddi pobl i weithio'n ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn gynaliadwy
  • Annog a chefnogi ymrwymiad i Ddysgu Gydol Oes.

Mae'r rhaglen waith sy'n cael ei datblygu i gefnogi'r cyflawni'r Gronfa Natur ar gyfer yr Hinsawdd (Nature for Climate Fund) wedi nodi fod angen cynnydd sylweddol yng ngweithlu sector coedwigaeth y DU er mwyn cefnogi uchelgeisiau'r llywodraeth.

Bydd y gwaith hwn o greu coetiroedd newydd, ochr yn ochr â rheoli coetiroedd presennol yn gynaliadwy a chynnal a chadw a rheoli coetiroedd a grëwyd o dan y rhaglen yn barhaus, yn gofyn am goedwigwyr, goruchwylwyr a gweithredwyr proffesiynol a galwedigaethau cysylltiedig newydd.

Nod yr ymchwil hon yw pennu'r cynnydd yn y gweithlu y byddai ei angen i gyrraedd y targed hwn ac ymestyn gwaith a wnaed eisoes yn yr Alban.

I'r perwyl hwn, nod y gwaith y gwneir tendr amdano yma yw darparu gwybodaeth feintiol ac ansoddol i'r sector a fydd yn caniatáu inni ddeall gallu'r gweithlu presennol yn well o ran niferoedd, demograffeg, galwedigaethau, bylchau sgiliau, a phrinder, ar draws y gadwyn gyflenwi o blanhigfeydd i broseswyr coed

Bydd hefyd yn caniatáu inni ddeall yn well y niferoedd, y galwedigaethau a'r lefelau sgiliau sy'n ofynnol i greu coetiroedd, cyrraedd targedau rheoli, a sicrhau mwy o ddefnydd o'r ffibr pren sydd ar gael, a lle gallai'r bylchau posibl fod.

Mae mwy o fanylion yn y ddogfen dendro isod, a gofynnwn i unrhyw un sy'n ystyried tendro am y gwaith hwn ddarllen y fanyleb yn ofalus a naill ai codi unrhyw ymholiadau gyda ni'n uniongyrchol drwy e-bostio Liz Barron-Majerik neu gofrestru i fynychu'r sesiwn holi ac ateb drwy'r un cyfeiriad e-bost. Cynhelir y sesiwn holi ac ateb am 10am ar 20 Ebrill, 2021.

mwy o wybodaeth