Haybales in field

Dathlu talent yng ngwobrau diwydiannau’r amgylchedd a’r tir pwysicaf Cymru

Cafodd hyfforddeion talentog eu cydnabod yng ngwobrau diwydiannau’r amgylchedd a’r tir pwysicaf Cymru oedd yn dathlu nifer o lwyddiannau mewn cyfnod heriol iawn i'r diwydiant.

Cyhoeddwyd Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Diwydiannau’r Amgylchedd a’r Tir Lantra Cymru yn rhithiol eleni oherwydd pandemig COVID-19, gan ddathlu menter, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a'r tir.

Enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn (20 oed ac iau) oedd John Williams o Chwitffordd, Treffynnon yn Sir y Fflint, gyda David Goodchild o Lwyngwril yng Ngwynedd yn cael ei gyhoeddi fel enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn (21 oed a throsodd).

Ar hyn o bryd mae John Williams, 17 oed, yn astudio cwrs Amaethyddol Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon Grŵp Llandrillo Menai, ac wrth weithio ar fferm gyfagos Mynydd Mostyn mae wedi ymgymryd â nifer o gyfrifoldebau.

Wrth sôn am ei wobr dywedodd John,

"Byddaf wastad yn wynebu heriau yn y diwydiant. Mae'n hanfodol edrych ar yr heriau hyn gyda meddwl agored a gweithio'n galed i'w goresgyn nhw. Fel ffermwyr, mae llawer o bethau nad ydym ni wedi'u dysgu eto ac rwy'n credu waeth pa oedran ydych chi, dylai ffermwr wastad fod yn barod i ddysgu."

Yn ail ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn (20 oed ac iau) roedd Emma Morgan Page, sy'n 17 oed, o’r Ystog yn Nhrefaldwyn sydd ar hyn o bryd yn astudio tuag at Ddiploma Estynedig City & Guilds Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth yng Ngrŵp NPTC.

David Goodchild oedd enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn (21 oed a throsodd), mae’n 21 oed ac astudiodd ef hefyd yng Ngholeg Glynllifon Grŵp Llandrillo Menai, lle enillodd Ddiploma Lefel 3 mewn Technoleg Tir. Mae David bellach yn astudio ar gyfer ei BEng (Anrh) mewn Peirianneg Amaethyddol ym Mhrifysgol Harper Adams.

Roedd y beirniaid yn awyddus iawn i roi sylwadau ar ffocws a phenderfyniad David,

"Roedd David yn crynhoi dysgwr a oedd wedi goresgyn heriau personol ac wedi defnyddio pob cyfle i barhau â'i ddatblygiad personol. Ar ôl gadael yr ysgol heb y cymwysterau i wireddu ei uchelgeisiau roedd wedi ymateb yn gadarnhaol i amgylchedd dysgu gwahanol ac wedi symud ymlaen o Lefel 2 i astudio ar gyfer gradd peirianneg amaethyddol erbyn hyn.

"Oherwydd ei benderfyniad a thrwy wneud y gorau o bob cyfle teimlai'r panel fod David yn meddu ar gymysgedd ddelfrydol o sgiliau ymarferol a gwybodaeth academaidd a fyddai'n sicrhau y byddai'n llwyddiannus yn ei yrfa ac y byddai'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'w sector dewisol."

Ymysg y rhai nesaf at y gorau ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn (dros 21 oed) oedd Phoebe Day, 21 oed, o Fwcle yn Sir y Fflint sy’n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria-Llysfasi ar hyn o bryd; a Daisy Bell, 25 oed o Borthmadog sy'n astudio BTEC Lefel 3 mewn Rheoli Cefn Gwlad (gan gynnwys coedwigaeth).

Bellach yn eu 26ain flwyddyn, gwnaed y gwaith o feirniadu'r gwobrau drwy gyfweliadau digidol yn dilyn proses cyn-ddethol. Wrth sôn am y gwobrau dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru,

"Mae Gwobrau Lantra Cymru yn tynnu sylw at gyfraniadau a llwyddiannau rhagorol ein holl enillwyr a'n cystadleuwyr sy'n gweithio yn niwydiannau amgylchedd a thir Cymru yn ogystal â'r gyrfaoedd gwerth chweil sydd ar gael yn y diwydiant.

"Mae eleni wedi bod yn anodd i bawb oherwydd COVID-19 ond roeddem ni dal i fod eisiau nodi'r achlysur i ddathlu llwyddiannau’r rhai sy'n datblygu ac yn rhagori yn eu hyfforddiant a'u datblygiad o fewn y sector.

"Rwy'n gwybod bod safon yr enwebiadau wedi creu argraff fawr ar y beirniaid eto a hoffwn longyfarch yr holl enillwyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar i gefnogaeth barhaus Cyswllt Ffermio wrth ein helpu gyda'r Gwobrau hyn."

Dros y chwarter canrif diwethaf mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir.

Bydd enillwyr y gwobrau a'r rhai a ddaeth yn agos at y brig yn rhan o raglen Llysgenhadon newydd Lantra Cymru i hyrwyddo datblygu sgiliau o fewn y gadwyn cyflenwi bwyd a diod yng Nghymru. Bydd cyfuniad o adnoddau a chodi ymwybyddiaeth anffurfiol ar gael i bob llysgennad yn ystod y flwyddyn.

Cyswllt Ffermio oedd prif noddwr y gwobrau hyn ac mae rhestr lawn o’r enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail yng Ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Lantra Cymru 2020 fel a ganlyn:

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn - 20 oed ac iau

Enillydd: John Williams (Treffynnon, Sir y Fflint)

Ail: Emma Morgan Page (Yr Ystog, Trefaldwyn, Powys)

 

Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – dros 21 oed

Enillydd: David Goodchild (Llwyngwril, Gwynedd)

Ail: Phoebe Day (Bwcle, Sir y Fflint)

Ail: Daisy Bell (Porthmadog, Gwynedd)

 

I ddysgu mwy am Wobrau Lantra Cymru, ewch i https://www.wales.lantra.co.uk/news/lantra-cymru-awards-2020