
Mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 19 Ionawr 2023 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.
Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.
Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, “Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru.
“Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!”
“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”
Mae'r categorïau'n rhychwantu nifer eang o sectorau ar y tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sy'n gweithredu mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.
Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau), Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 oed a thros 40 oed), Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio, a'r Wobr Cyfraniad Oes. Gellir gweld y rhestr lawn o gategorïau cymwys a'u meini prawf ar wefan Lantra Cymru.
Bydd enillwyr y gwobrau a’r rhai sy'n agos at y brig yn cael eu cofrestru ar raglen newydd Llysgenhadon Lantra Cymru i hyrwyddo datblygiad sgiliau yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru. Bydd cyfuniad o adnoddau a chodi ymwybyddiaeth anffurfiol ar gael i bob llysgennad yn ystod y flwyddyn.
Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2022. Bydd y beirniadu yn digwydd ar 7 a 8 Tachwedd gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol.
Bydd beirniadu yn cael ei wneud trwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddewis.
Award categories
1. Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 20 oed ac iau
Ar agor i fyfyrwyr ac ymgeiswyr 20 oed neu iau ar 1 Ionawr 2021, sy’n datblygu gyrfa o fewn y diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau’r tir ac sydd wedi dangos ymrwymiad i addysg a
hyfforddiant galwedigaethol ers gadael yr ysgol. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr neu’n gyflogedig.
Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru
2. Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 21 a hŷn
Ar agor i fyfyrwyr a dysgwyr dros 21 oed ar 1 Ionawr 2021, sydd wedi rhagori mewn hyfforddiant a datblygiad ac o ganlyniad wedi bod o fudd i’r busnes y maen nhw’n gweithio
ynddo, y diwydiant maen nhw’n ei gynrychioli, neu wedi lansio menter lwyddiannus eu hunain. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr, cyflogedig, hunangyflogedig neu’n berchnogion busnes.
Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru
3. Cyswllt Ffermio
Ar agor i Holl gleientiaid Dysgu Gydol Oes Cyswllt Ffermio sydd wedi dilyn hyfforddiant drwy Raglen Cyswllt Ffermio ers mis Ionawr 2016.
Mae dau gategori:
a) Ar gyfer dysgwyr 40 oed ac iau ar 1 Ionawr 2021
b) Ar gyfer dysgwyr dros 40 oed ar 1 Ionawr 202120
Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru
4. Gwobr Arloesedd Ffermio
Gwobr i ddathlu unigolyn sydd wedi arddangos arloesedd a hyblygrwydd o fewn system ffermio gynaliadwy trwy ymgysylltu â chefnogaeth Cyswllt Ffermio. Bydd y beirniaid yn
canolbwyntio ar y modd yr aeth ymgeiswyr ati I weithredu, cofnodi a delio ag arferion da rheoli tir cynaliadwy a newid hinsawdd ar eu daliad.
Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru
5. Gwobr Cyfraniad Oes
Gwobr i gydnabod cyfraniad parhaus eithriadol a sylweddol i’r sector Tir neu Fwyd-Amaeth yng Nghymru.
Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru