Gwobrau Lantra Cymru 2025

Am Y Gwobrau

 

Mae Lantra Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 15 Ionawr 2026 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod. 

Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir. 

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru:

“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru. 

“Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!” 

“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.” 

Mae'r categorïau'n rhychwantu nifer eang o sectorau ar y tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sy'n gweithredu mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid. 

Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau), Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio, Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio, a'r Wobr Cyfraniad Oes. Yn ogystal, eleni rydym yn falch o gyhoeddi categori newydd - Gwobr Coedwigaeth a Phrosesu Pren a fydd yn helpu i amlygu'r talent eithriadol sy'n bodoli yn y sector. 

 

Sut I Wneud Enwebiad

 

Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17th Hydref 2025. Bydd y beirniadu yn digwydd ar 27th a 28th  Hydref gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol. 

Bydd beirniadu yn cael ei wneud trwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddewis. 

 

Lawrlwythwch y ffurflen enwebu yma