Mae un o gyrsiau hyfforddi ar-lein diweddaraf Lantra, 'Hyfforddiant digwyddiadau gwledig', a gafodd ei lansio’r gaeaf diwethaf yn llwyddiant ymhlith trefnwyr sioeau Cymru sy’n dymuno sicrhau eu bod yn cadw at y canllawiau a fydd yn helpu i gadw ymwelwyr, arddangoswyr a da byw yn ddiogel yn nigwyddiadau amaethyddol, chwaraeon, diwylliannol a chymdeithasol gwledig eleni.
Mae Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, wrth ei fodd â’r niferoedd sydd wedi manteisio ar yr hyfforddiant hyd yn hyn.
"Mae trefnwyr dros 20 o sioeau yng Nghymru eisoes wedi cofrestru ar y cwrs ac roeddem hefyd yn falch iawn o drefnu sesiwn grŵp fyw ar gyfer 40 o gynrychiolwyr CFfI Cymru."
Dywedodd Mr Thomas ei bod yn hanfodol bod pob trefnydd digwyddiadau yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau a'i rwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelwch digwyddiadau, cynllunio, asesiadau risg ac yswiriant.
"Mae'r hyfforddiant ar-lein hwn yn trafod pob agwedd ar drefnu digwyddiadau a bydd o werth i'r holl drefnwyr hynny a allai fod yn dymuno diweddaru neu loywi eu gwybodaeth a'u sgiliau presennol, yn ogystal ag unigolion sy'n ymwneud â rheoli digwyddiadau am y tro cyntaf."
Caiff y cwrs ei ddarparu drwy weminar awr o hyd wedi'i recordio ymlaen llaw a phum modiwl e-ddysgu byr y mae modd eu dilyn ar adeg a chyflymdra sy'n addas i'r unigolyn. Y gost arferol yw £30 + TAW fesul ymgeisydd ond ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal ar gyfer nifer cyfyngedig o leoedd i annog mwy o drefnwyr sioeau Cymru i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn. Ar ôl ei gwblhau, bydd pob cyfranogwr yn derbyn tystysgrif 'Hyfforddiant digwyddiadau gwledig' Lantra.
Bydd cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar rai o'r materion hanfodol y dylid eu hystyried wrth gynllunio unrhyw ddigwyddiad gwledig gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, ymdrin â damweiniau ac argyfyngau, gweinyddu digwyddiadau, rheoli safleoedd, rheoli da byw a cheffylau, ymdrin â symud anifeiliaid, lles a bioddiogelwch, marchnata a chyllid.
“Mae pob trefnydd digwyddiadau yn gobeithio na fydd unrhyw beth yn mynd o’i le, ond mae’n gyfrifoldeb ar bob tîm trefnu i gadw staff, contractwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr mor ddiogel â phosibl.
"Bydd y cwrs hyfforddi hwn yn helpu i sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig yn gwybod sut i ymdrin ag unrhyw sefyllfa a pha gamau i'w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad," meddai Mr Thomas.
Nia Osborne yw Rheolwr Digwyddiadau ac Ysgrifennydd Sioe Brynbuga.
"Penderfynais wneud y cwrs i atgyfnerthu fy ngwybodaeth a rhoi hwb i fy hyder, er mwyn sicrhau fy mod i’n gwneud y peth iawn," meddai Ms Osborne.
I Helen Roberts, Swyddog Datblygu Cymdeithas Genedlaethol Defaid Cymru, roedd yr hyfforddiant yn gyfle i sicrhau ei bod yn gweithredu'r canllawiau iechyd a diogelwch diweddaraf.
"Gwnaeth yr hyfforddiant hwn fy helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a diogelwch a fy ngalluogi i ailysgrifennu'r asesiadau risg a'r cynlluniau rheoli digwyddiadau."
Bydd Lantra Cymru yn hyrwyddo 'Hyfforddiant digwyddiadau gwledig' a'r holl gyrsiau hyfforddi eraill sydd ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau tir yn Sioe Frenhinol Cymru eleni (18 – 21 Gorffennaf). I gael gwybod mwy, galwch heibio i adeilad y pencadlys ar Rodfa K ar faes y sioe neu i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein, ewch i www.lantra.co.uk/e-learning