Gwobrau Lantra Cymru 2020
Lantra Cymru Logo

Bwriad y gwobrau yw cydnabod menter, sgiliau a brwdfrwydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sector amgylcheddol a diwydiannau tir.

Caiff y beirniadu ei gyflawni trwy gynnal cyfweliad digidol cyn proses ddethol ymlaen llaw.

 

Categorïau’r Gwobrau

1. "Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 20 oed ac iau"

Ar agor i fyfyrwyr ac ymgeiswyr 20 oed neu iau ar 1 Ionawr 2020, sy'n datblygu gyrfa o fewn y diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau’r tir ac sydd wedi dangos ymrwymiad i addysg a hyfforddiant galwedigaethol ers gadael yr ysgol. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr neu'n gyflogedig.

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

2. "Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 21 a hŷn"

Ar agor i fyfyrwyr a dysgwyr dros 21 oed ar 1 Ionawr 2020, sydd wedi rhagori mewn hyfforddiant a datblygiad ac o ganlyniad wedi bod o fudd i'r busnes y maen nhw’n gweithio ynddo, y diwydiant maen nhw’n ei gynrychioli, neu wedi lansio menter lwyddiannus eu hunain. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr, cyflogedig, hunangyflogedig neu’n berchnogion busnes.

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

3. Cyswllt Ffermio -

Ar agor i holl gleientiaid Dysgu Gydol Oes Cyswllt Ffermio sydd wedi dilyn hyfforddiant drwy Raglen Cyswllt Ffermio ers mis Ionawr 2016.

Mae dau gategori

a) Ar gyfer dysgwyr 40 oed ac iau ar 1 Ionawr 2020

b) Ar gyfer dysgwyr dros 40 oed ar 1 Ionawr 2020

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

4. Gwobr Arloeswr Ffermio

Gwobr i ddathlu unigolyn sydd wedi dangos arloesedd a hyblygrwydd o fewn system ffermio drwy ymgysylltu â chymorth Cyswllt Ffermio.

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

5. Gwobr Cyfraniad Oes

Gwobr i gydnabod cyfraniad parhaus eithriadol a sylweddol i'r sector Tir neu Fwyd-Amaeth yng Nghymru.

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

Gellir gwneud cais ar gyfer yr holl gategorïau trwy ddefnyddio’r ffurflen gais hon.