Gardener planting seedling

Mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 24 Chwefror 2022 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.

Ymhlith cyflwynwyr y seremoni mae cyflwynydd BBC Cymru Rachael Garside ac Aled Rhys Jones, Ymgynghorydd Busnes Gwledig ac Ysgolor Ffermio Nuffield. Cyhoeddwyd hefyd mai’r cwmni cynhyrchu amlgyfrwng blaenllaw Telesgop, fydd partner cyfryngau’r gwobrau.

Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru,

“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru.

“Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!”

“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”

Mae 10 categori o wobrau sy'n cwmpasu nifer eang o sectorau tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sydd ar waith mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.

Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau), Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 oed a thros 40 oed), Gwobr Arloeswr [DC1] Fferm Cyswllt Ffermio, a'r Wobr Cyfraniad Oes. Gellir gweld y rhestr lawn o gategorïau cymwys a'u meini prawf ar wefan Lantra Cymru.

Bydd enillwyr y gwobrau a’r rhai sy'n agos at y brig yn cael eu cofrestru ar raglen newydd Llysgenhadon Lantra Cymru i hyrwyddo datblygiad sgiliau yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru. Bydd cyfuniad o adnoddau a chodi ymwybyddiaeth anffurfiol ar gael i bob llysgennad yn ystod y flwyddyn.

Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Tachwedd 2021. Bydd y beirniadu yn digwydd ar 13 a 14 Rhagfyr gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol.

Alli di checio ond credu mai Arloesedd ni’n dweud

Mae'r gwobrau i gydnabod menter, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd o fewn y sector amgylcheddol a'r sector tir.

Cynhelir y beirniadu drwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddethol.
 

Categorïau Gwobrau

1. Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 20 oed ac iau

Ar agor i fyfyrwyr ac ymgeiswyr 20 oed neu iau ar 1 Ionawr 2021, sy’n datblygu gyrfa o fewn y diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau’r tir ac sydd wedi dangos ymrwymiad i addysg a

hyfforddiant galwedigaethol ers gadael yr ysgol. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr neu’n gyflogedig.

 

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

2. Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – 21 a hŷn

Ar agor i fyfyrwyr a dysgwyr dros 21 oed ar 1 Ionawr 2021, sydd wedi rhagori mewn hyfforddiant a datblygiad ac o ganlyniad wedi bod o fudd i’r busnes y maen nhw’n gweithio ynddo, y diwydiant maen nhw’n ei gynrychioli, neu wedi lansio menter lwyddiannus eu hunain. Gallai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr llawn-amser neu ran-amser yn y coleg, yn brentisiaid, gwirfoddolwyr, cyflogedig, hunangyflogedig neu’n berchnogion busnes.

 

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

3. Cyswllt Ffermio

Ar agor i Holl gleientiaid Dysgu Gydol Oes Cyswllt Ffermio sydd wedi dilyn hyfforddiant drwy Raglen Cyswllt Ffermio ers mis Ionawr 2016.

Mae dau gategori:
 

a) Ar gyfer dysgwyr 40 oed ac iau ar 1 Ionawr 2021

b) Ar gyfer dysgwyr dros 40 oed ar 1 Ionawr 202120


Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

4. Gwobr Arloesedd Ffermio

Gwobr i ddathlu unigolyn sydd wedi arddangos arloesedd a hyblygrwydd o fewn system ffermio gynaliadwy trwy ymgysylltu â chefnogaeth Cyswllt Ffermio. Bydd y beirniaid yn

canolbwyntio ar y modd yr aeth ymgeiswyr ati I weithredu, cofnodi a delio ag arferion da rheoli tir cynaliadwy a newid hinsawdd ar eu daliad.

 

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru

 

5. Gwobr Cyfraniad Oes

Gwobr i gydnabod cyfraniad parhaus eithriadol a sylweddol i’r sector Tir neu Fwyd-Amaeth yng Nghymru.

 

Beirniedir gan: Panel Gwobrau Lantra Cymru


Dadlwythwch y ffurflen enwebu yma