A young horticulture student in a blue coat checking strawberry plants in a large horticulture greenhouse

Mae Lantra Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 18 Ionawr 2024 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.

Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, “Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru.

“Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!”

“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”

Mae'r categorïau'n rhychwantu nifer eang o sectorau ar y tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sy'n gweithredu mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.

Ymhlith y categorïau mae Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau), Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn), Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 oed a thros 40 oed), Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio, a'r Wobr Cyfraniad Oes. Gellir gweld y rhestr lawn o gategorïau cymwys a'u meini prawf ar wefan Lantra Cymru.

Mae cystadlu yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Hydref 2023. Bydd y beirniadu yn digwydd ar 6 a 7 Tachwedd gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol.

Bydd beirniadu yn cael ei wneud trwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddewis.

 

Lawrlwythwch y ffurflen enwebu yma