
Oherwydd cyfyngiadau pandemig Covid 19, a berodd i Wobrau Lantra Cymru 2021 gael eu beirniadu o bell, recordiodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a’r Trefnydd, Lesley Griffiths neges fer i’w darlledu yn ystod y seremoni ganlynol a gynhaliwyd am 6.30pm ddydd Iau, 24 Chwefror, 2022 yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod. Roedd y gwobrau’n cael eu cynnal am y seithfed tro ar hugain eleni.
Rhoddodd y Gweinidog ei diolch a’i llongyfarchion i holl enillwyr ac enwebeion 2021, a chyhoeddwyd eu henwau oll ar y noson. Rhoddodd ei diolch hefyd i’r holl ddarparwyr hyfforddiant tir a cholegau gwledig yng Nghymru sydd wedi cael eu cymeradwyo i ddarparu cyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio a’u henwebodd.
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Ar ôl y digwyddiad, rhoddodd y Gweinidog deyrnged arbennig hefyd i enillydd gwobr Cyfraniad Oes Lantra Cymru 2021, sy'n cydnabod unigolion a wnaeth gyfraniad 'eithriadol a sylweddol' i amaethyddiaeth Cymru. Dyfarnwyd y wobr i Dai Jones MBE o Lanilar, Ceredigion.
“Mae Dai Jones yn wyneb cyfarwydd i bawb sy’n byw ac yn gweithio yng nghymunedau ffermio a chefn gwlad Cymru. Mae ei gellwair cyfeillgar a’i lais bariton wedi bod yn ein diddanu ar raglenni S4C ers blynyddoedd lawer."
“Mae’n debyg ei fod fwyaf adnabyddus am gyflwyno Cefn Gwlad ac am ei ddarllediadau o’r Sioe Frenhinol."
“Mae Dai yn gyn-lywydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru a’r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol, ac yn Is-lywydd CFfI Cymru gynt, ac roedd yn hynod falch o gael ei benodi'n Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 pan mai Ceredigion oedd y sir nawdd."
“Mae wedi bod yn eiriolwr gwych dros amaethyddiaeth a bywyd gwledig Cymru, ac mae'n deilwng iawn o’r wobr bwysig hon."
Rhoddodd y Gweinidog ei llongyfarchiadau i enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams hefyd. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi am yr unfed tro ar ddeg, yn rhodd gan Mrs Mary Williams, gweddw y diweddar Mr Williams, a hynny er mwyn cydnabod cyflawniadau ffermwyr ifanc sydd wedi dechrau busnes ffermio yn sgil bod ar raglen Mentro Cyswllt Ffermio. Fe'i dyfarnwyd i'r ffermwr cenhedlaeth gyntaf Bryn Perry, sy'n byw yn Sir Benfro.
“Daw Bryn o gefndir academaidd a phroffesiynol yn y sector busnes, ond ers iddo symud i Gymru ddwy flynedd yn ôl mae wedi ennill ei blwyf fel ffermwr a gŵr busnes ifanc hynod broffesiynol. Mae ei fusnes llaeth defaid eisoes yn denu cryn sylw, ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai ef sy’n derbyn Gwobr Goffa Brynle Williams,” meddai’r Gweinidog.
“Mae pob un o enillwyr ac enwebeion teilwng Gwobrau Lantra Cymru eleni, gyda’u hymroddiad i ddysgu gydol oes, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r broses o foderneiddio a phroffesiynoli’r diwydiant amaeth yng Nghymru.
“Ar y cyd, mae eich ymdrechion yn helpu’r diwydiant i ddiogelu dyfodol ffermydd teuluol a chymunedau gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi’u henwebu eleni, yn enwedig ein henillwyr teilwng.
“Rwy'n dymuno'n dda i chi i gyd wrth i chi fynd ymlaen i adael eich marc ar amaethyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt – mae dyfodol ein diwydiant mewn dwylo diogel iawn,” meddai'r Gweinidog.
Yr amaethwr blaenllaw o Gymru a chadeirydd Lantra Cymru, Mr Peter Ress, oedd yn cadeirio’r panel dethol eleni, a oedd yn cynnwys yr arbenigwr Iechyd a Diogelwch Amaethyddol Brian Rees, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru; Dr Nerys Llewellyn Jones, sylfaenydd a Phartner Rheoli cyfreithwyr Agri Advisor; a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Wales.