AgriStart: hyfforddiant AM DDIM i’ch paratoi am waith…
Os ydych chi rhwng 16 a 28 oed, o gefndir nad yw’n ymwneud â ffermio ym Mhowys, gall y cynnig AgriStart newydd roi hyfforddiant achrededig AM DDIM i chi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a garddwriaeth.
Yn agored i bawb, boed yn fyfyriwr TGAU ym Mhowys, yn fyfyrwyr cwrs tir lefel 2/3 mewn coleg addysg bellach, neu’n aelod o’r CFfI o gefndir nad yw’n ymwneud â ffermio, mae amrywiaeth o gyrsiau i ddewis o’u plith.
Boed eich bryd ar e-ddysgu, ystafell ddosbarth, neu hyfforddiant ymarferol, mae'r rhaglen yn caniatáu i chi ddewis o amrywiaeth o gyrsiau byr er mwyn bod yn barod am swydd gyda'r cymwysterau hanfodol y bydd eu hangen arnoch.
Pa gyrsiau sydd ar gael?
Darperir y cyrsiau, a ariennir yn llawn trwy rwydwaith Gwobrau Lantra, wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac maent yn cynnwys:
- Gyrru tractor
- Cerbydau pob tir (ATV)
- Iechyd a diogelwch
- Diogelwch plant ar ffermydd
- Defnyddio plaladdwyr yn ddiogel
- Rheoli cnofilod
- Cadwraeth a chynaliadwyedd
- Rheoli coetiroedd
- Trin da byw
Diddordeb mewn cwrs nad oes sôn amdano yma? Cysylltwch i drafod a dechrau archwilio cyfleoedd posibl.
Darparwyr Hyfforddiant
Am restr o Ddarparwyr Hyfforddiant sy'n cyflwyno'r hyfforddiant, cliciwch yma:
Sut i wneud cais
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni i ddarganfod mwy a byddwn yn eich helpu i gofrestru mewn lleoliad cyfleus neu ar-lein: wales@lantra.co.uk
Nifer cyfyngedig o leoliadau sydd ar gael felly awgrymwn eich bod yn cofrestru'n gynnar.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a gefnogir gan Gyngor Sir Powys.