Ein Tîm

Mae’r tîm prosiect yn edrych ymlaen at weithio gyda chi.

Mae ein tîm profiadol wedi eu trwytho mewn cyflwyno cymorth i amrywiaeth o fusnesau garddwriaethol, o bob maint, yn gweithredu mewn amrywiol farchnadoedd, gydag amrywiaeth o brofiad, ac ar draws is-sectorau amrywiol.

Gyda’r profiad helaeth hwn a’n henw da sydd wedi ei brofi, mae gennym yr arbenigedd i ddarparu cefnogaeth werthfawr a dibynadwy i dyfwyr masnachol yng Nghymru.

Dyma ein tîm
Kevin Thomas Lantra
Kevin Thomas
Cyfarwyddwr
Mae Kevin yn defnyddio ei ddealltwriaeth helaeth o’r sector amgylcheddol ac sy’n seiliedig ar dir, i ddatblygu gorchwyl Lantra yng Nghymru.

Ar ôl graddio o Brifysgol Reading gyda BSc mewn Amaethyddiaeth, gweithiodd ar secondiadau hyfforddi o fewn busnesau garddwriaethol mawr yn East Anglia a Chaint cyn dychwelyd i Gymru i wneud cyfres o swyddi amaethyddol ac amgylcheddol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog.

Gweithiodd Kevin wedyn gydag Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn amrywiaeth o rolau strategol a chyllido yn ymwneud â Farming Connect a’r Strategaeth Garddwriaeth ac Organig i Gymru.

Ymunodd Kevin â Lantra o Goleg Garddwriaeth Cymru, ar ôl rheoli Busnes Garddwriaeth Interreg yn flaenorol gyda phartneriaid yn Iwerddon.
Sarah Gould Headshot
Sarah Gould
Rheolwr Cydweithredu a Chadwyn Gyflenwi Garddwriaeth
Dechreuodd Sarah weithio gyda Lantra yn 2005 fel Cydlynydd Ymchwil ac mae hi wedi tyfu i’w swydd bresennol fel Rheolwr Prosiect ar gyfer TyfuCymru. Trwy gyfrwng y prosiect hwn, ei bwriad yw cynorthwyo a hwyluso busnesau garddwriaeth fasnachol i fod yn fwy cynhyrchiol, proffidiol ac yn barod ar gyfer heriau’r dyfodol.

Mae hi’n falch o’i gwreiddiau yn Sir Gaerhirfryn, tyfodd i fyny yn meddwl bod pridd bob amser yn ddu a bod moron wedi eu gorchuddio â mwd! Symudodd Sarah i ffwrdd i astudio yng Ngholeg Amaethyddol Swydd Warwick, Moreton Morrell ac yna i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Amaethyddol Frenhinol Cirencester.

Ar ôl pum mlynedd yn gweithio mewn diwydiant, aeth i’r afael â rolau addysgu mewn Addysg Bellach ym Mhencoed a Choleg Reaseheath cyn gorffen ei gyrfa addysgu fel Pennaeth yr Adran yng Ngholeg Wiltshire.
Alice Coleman Headshot
Alice Coleman
Cydlynydd Cydweithredu a Chadwyn Gyflenwi
Ymunodd Alice â Lantra ym mis Rhagfyr 2016 fel Cydlynydd Prosiect ar gyfer Tyfu Cymru gan gyflwyno ei phrofiad i Gwmnïau Bwyd Cydweithredol Cymunedol Cymru. Yn sgil ei chefndir mewn Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol a chyfnod fel athrawes Fusnes Saesneg i Veolia ym Mharis, daw â sgiliau amrywiol er mwyn datblygu’r prosiect busnesau tyfu o fewn Tyfu Cymru.

Mae hi’n byw yn Sir Benfro ac yn gogyddes frwd ac yn cynnal bistro, gan hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch o Gymru ac yn mwynhau popeth y mae Sir Benfro’n ei gynnig.