Gwobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra 2019
Professor Wynne Jones receiving his Lifetime Achievement Award from Mark Alexander (Welsh Government) and comperes Rachael Garside and Aled Jones

 Yr Athro Wynne Jones yn derbyn ei Wobr Cyflawniad Oes o Mark Alexander (Llywodraeth Cymru) a Rachael Garside ac Aled Jones

Lantra Cymru Awards Logo

Anrhydeddu cyfraniadau rhagorol i sectorau amaeth a diwydiannau’r tir yng Ngwobrau Lantra Cymru

Cafodd doniau unigolion a busnesau diwydiannau’r tir Cymru eu dathlu neithiwr (nos Fercher 23 Hydref) yng Ngwobrau Lantra Cymru.

Roedd eleni’n nodi carreg filltir bwysig i Wobrau Lantra Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd eu pen-blwydd yn 25 oed. I ddathlu, cafodd y Gwobrau eu dyrchafu i seremoni eu hunain, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod lle gwelwyd partneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol yn cydnabod mentergarwch, sgiliau a brwdfrydedd pobl sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sectorau.

Ymhilth cyflwynwyr y noson roedd cyflwynydd BBC Cymru Wales Rachael Garside ac Aled Rhys Jones, Ymgynghorydd Busnesau Gwledig ac Ysgolor Ffermio Nuffield, a gyflwynodd yr enillwyr a’r rhai ddaeth yn agos at y brig ar gyfer nifer o sectorau diwydiannau’r tir, gan gynnwys amaeth, yr amgylchedd, garddwriaeth a choedwigaeth.

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru:

“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn amlygu cyfraniadau a llwyddiannau rhagorol ein holl enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail sy’n gweithio yn niwydiannau’r tir ac amgylchedd Cymru yn ogystal â’r nifer o yrfaoedd gwerthfawr sydd ar gael yn y diwydiant. Gwn fod safon yr enwebiadau wedi creu argraff ar ein beirniaid a hoffwn longyfarch pob enillydd a phawb gyrhaeddodd y rhestr fer.

“Rydyn ni’n amlwg yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth amrywiaeth o bobl a sefydliadau sy’n gwneud cynnal digwyddiad fel hwn yn bosibl, gan gynnwys ein partner cyfryngau Telesgop. Mae’n bleser gweithio gyda CFfI Cymru, Tyfu Cymru, Focus on Forestry First a Gwobrau Coffa Brynle Williams, pob un yn cynnig llwyfan sy’n cydnabod a dathlu’r llwyddiannau anhygoel yn y sector amaeth a diwydiannau’r tir.

“Yn olaf hoffwn ddiolch i Cyswllt Ffermio am gefnogi’r Gwobrau’n unwaith eto eleni, yn ystod blwyddyn arbennig sy’n dathlu chwarter canrif.”

​Cheryl Reeves, winner of the Farm Innovator Award
Cheryl Reeves, enillydd y Wobr Arloeswr Ffermio

Un o uchafbwyntiau’r noson oedd cyflwyno’r wobr Cyfraniad Oes i’r Athro Wynne Jones o Aberystwyth. Mae’r wobr yn dathlu unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad hir a pharhaus i sector diwydiannau’r tir yng Nghymru.

Mae’r Athro Wynne Jones yn ffigwr adnabyddus ac uchel ei barch ym myd ffermio. Mae ei gyfraniadau personol wedi cael eu cydnabod gan y diwydiant drwy, er enghraifft, Gymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, Gwobr Amaethyddol Genedlaethol RASE yn 2005 a Chwpan Clwb y Ffermwyr yn 2007 am gyfraniad rhagorol i Amaeth Prydain. Yn 2009 derbyniodd OBE am ei wasanaethau i addysg uwch amaeth. Bu Wynne yn Bennaeth ar Goleg Prifysgol Harper Adams o 1996 i 2009 a chyn hynny, o 1988, yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg a Chyfarwyddwr Materion Academaidd.

Uchafbwynt arall oedd Gwobr Goffa Brynle Williams, sy’n dathlu’r cyfraniad enfawr a wnaed gan y diweddar Brynle Williams i amaeth Cymru, fel Aelod Cynulliad ac fel ffermwr. Sefydlwyd y Wobr yn 2011 ac eleni mae’n dathlu llwyddiannau ffermwyr ifanc sydd wedi rhagori yn rhaglen Mentro Llywodraeth Cymru sy’n helpu ymgeiswyr newydd i sefydlu cytundebau Rhannu Ffermio gyda pherchnogion tir.

Enillwyd y Wobr gan Peredur Owen o Lanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn rhan o fenter rhannu ffermio 500 erw ers 2018. Sylweddolodd Peredur, a fagwyd ar fferm deuluol yn y gogledd, nad oedd fferm y teulu’n ddigon mawr i gynnig bywoliaeth iddo ac roedd yn benderfynol o gael profiad gwaith ym mhob sector, o laeth i gig eidion a defaid a sylweddolodd hefyd y byddai’n rhaid iddo symud o’i gartref genedigol yn y gogledd. Mae hefyd wedi gweithio ar fenter porc, cig eidion, defaid ac âr fawr yng Nghaerefrog a threuliodd flwyddyn fel gweithiwr fferm cyffredinol yn Seland Newydd er mwyn magu profiad.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Mae cynllun gwobrwyo gwych Lantra yn amlygu a gwobrwyo llwyddiannau cynifer o unigolion ymroddgar, y gweithwyr sy’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy, nid yn unig i’n diwydiant ni ond hefyd i’r agenda wledig ehangach, ein economi gwledig a’r cymunedau ble maen nhw’n byw ac yn gweithio.

“Hoffwn longyfarch yr holl unigolion sydd wedi cael eu cydnabod gan y gwobrau, yn ogystal â’r genhedlaeth o enillwyr sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae pob un ohonoch chi’n gwneud cyfraniad gwerthfawr, nid yn unig yn eich maes arbennig o waith, ond i’r gymuned wledig ehangach, ar ôl dangos mentergarwch, brwdfrydedd a hyder i ymgeisio am wobr a gallu neilltuol i ddod i’r brig.

“Roedd tasg heriol yn wynebu ein panel beirniadu i nodi yr unigolion neilltuol hynny y mae eu  sgiliau, gallu, profiad a llwyddiannau’n eu gwneud yn enillwyr haeddiannol, ac yn llysgenhadon.”

Enillydd Gwobr Dysgwr Coleg Ifanc y Flwyddyn (o dan 26), oedd Elin Wyn Orrells o Abermule yn Nhrefaldwyn, Powys.

Mae Elin, sy’n 19 oed, yn mynychu Coleg y Drenewydd (sy’n rhan o Grŵp NPTC) ble mae’n astudio ar gyfer Diploma BTEC mewn Amaethyddiaeth. Mae Elin yn gweithio ar fferm 1,200 erw ei theulu yn helpu gyda’r penderfyniadau busnes a gwaith dyddiol y fferm.

Dywedodd enwebydd Elin, Sue Lloyd Jones o Coleg y Drenewydd, sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC:

“Roedd enwebu Elin yn bleser oherwydd mae’n fyfyrwraig sydd â llawer o botensial, ac yn un sydd wedi dangos cryn frwdfrydedd ac angerdd dros y diwydiant amaeth, ac mae hi wedi cymryd pob cyfle sydd wedi ei gynnig iddi. Mae Elin yn drefnus iawn ac yn teimlo’n angerddol am y diwydiant a rôl y mudiad CFfI mewn Amaeth. Mae gan Elin ddealltwriaeth wych o Systemau Cig Eidion a Defaid a’r cyfleoedd a’r heriau fydd yn codi yn y dyfodol.”

Elin Orrells receiving the College Young Learner of the Year Award
Elin Orrells yn derbyn Gwobr Dysgwr Coleg Ifanc y Flwyddyn

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Lantra Cymru 2019 a’r rhai ddaeth yn ail:

 

Dysgwr Coleg Ifanc y Flwyddyn

Enillydd: Elin Wyn Orrells (Trefaldwyn, Powys)

Ail: Tomos Davies (Dinbych)

Clod uchel: Joseph Maguire (Penymynydd, Sir y Fflint); Niamh Williams (New Brighton, Wrecsam); Elin Protheroe (Llanwrtyd, Powys)


Dysgwr Coleg Gydol-Oes y Flwyddyn

Enillydd: Daniel Savin (Caernarfon)

 

Gwen Price receiving the Farming Connect Young Learner of the Year Award
Gwen Price yn derbyn Gwobr Dysgwr Ifanc Cyswllt Ffermio y Flwyddyn

Dysgwr Ifanc Cyswllt Ffermio y Flwyddyn

Enillydd: Gwen Price (Llangadog, Sir Gaerfyrddin)

Ail: Susan James (Arbeth, Sir Benfro)

 

Dysgwr Gydol-Oes Cyswllt Ffermio y Flwyddyn

Enillydd: Steve Lewis (Hwlffordd, Sir Benfro)

Ail a chlod uchel: Mark Thomas (Caerfyrddin)
 

Arloeswr Ffermio 

Enillydd: Cheryl Reeves (Bangor-is-y-Coed, Wrecsam)

Ail: Steve Lewis (Hwlffordd)

 

Bellis Brothers Farm Shop and Garden Centre winner of the Tyfu Cymru Award
Siop Fferm a Chanolfan Arddio Bellis Brothers, enillwyr y Wobr Tyfu Cymru

Gwobr Tyfu Cymru 

Enillydd: Siop Fferm a Chanolfan Arddio Bellis Brothers (Wrecsam)

Ail: Farmyard Nurseries (Llandysul, Ceredigion)
 

Dysgwr Coedwigaeth y Flwyddyn

Enillydd: Stephanie Widdowson (Caernarfon)

Ail: Leigh Ambler (Brynmawr, Gwent)

 

Ffermwyr Dyfodol Cymru

Enillydd: Annie James (Llandysul, Ceredigion)

 

Peredur Owen receiving the Brynle Williams Memorial Fund Award
Peredur Owen yn derbyn Gwobr Goffa Brynle Williams

Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (CFfI Cymru)

Enillydd: Huw Jones (Llanerchymedd, Ynys Môn)

 

Gwobr Goffa Brynle Williams

Enillydd: Peredur Owen (Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin)

 

Gwobr Cyfraniad Oes

Enillydd: Yr Athro Wynne Jones (Waunfawr, Aberystwyth)

 

Cyswllt Ffermio oedd y prif noddwr a Telesgop, y cwmni cynhyrchu amlgyfrwng blaenllaw oedd partner cyfryngau’r gwobrau.

Yn ystod y chwarter canrif diwethaf mae Lantra Cymru wedi darparu hyfforddiant arbenigol hanfodol a chymwysterau ar gyfer diwydiannau’r tir a’r amgylchedd .

Caiff enillwyr y gwobrau a’r rhai ddaeth yn ail eu cofrestru ar raglen Llysgenhadon newydd Lantra Cymru sy’n hybu datblygu yng nghadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru. Bydd cyfuniad o adnoddau a chodi ymwybyddiaeth anffurfiol ar gael i bob llysgennad yn ystod y flwyddyn.

Nodiadau i olygyddion: Am ymholiadau Cysylltiadau Cyhoeddus cysylltwch â Deian Creunant ar 01970 636419 / deian.creunant@four.cymru neu Delyth Davies ar 01970 636404 / delyth.davies@four.cymru