Tyfu Cymru

Mae Tyfu Cymru, sydd â’r nod o ysgogi twf a chynaliadwyedd yn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru, wedi cyflawni amrywiaeth drawiadol o dargedau ar ôl pum mlynedd lwyddiannus o arloesi a chydweithio, ac mae’n gadael etifeddiaeth barhaus yn y sector garddwriaeth yng Nghymru.

 

Cymerodd dros 1,400 o gyfranogwyr, yn cynrychioli dros 400 o fentrau tyfwyr ran mewn 1381 o ddiwrnodau hyfforddi a ariannwyd yn llawn.

 

Bydd gwaith Tyfu Cymru yn parhau o 1 Ebrill 2023 ac yn cael ei ymgorffori i Cyswllt Ffermio. Mae garddwriaeth yn sector targed i Lywodraeth Cymru, gyda cham nesaf darpariaeth Cyswllt Ffermio wedi’i gynllunio i adlewyrchu themâu trosfwaol cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a mwy o gystadleugarwch byd-eang. Gall tyfwyr nad ydynt wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd gysylltu â’r ganolfan wasanaeth ar 03456 000 813 i barhau i gael mynediad at gymorth wedi’i ariannu.

 

Rhaglen Tyfu Cymru yn Dathlu Llwyddiant wrth Hybu Garddwriaeth Cymru (newyddionbusnescymru.com)

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wales@lantra.co.uk