Daeth prosiect Sgiliau Bwyd Cymru i ben ar 31 Mawrth 2023.
Roedd Sgiliau Bwyd Cymru yn brosiect 4 blynedd a oedd yn cefnogi busnesau Cymreig ym maes gweithgynhyrchu bwyd a diod i uwchsgilio gweithwyr er mwyn sicrhau bod gan y diwydiant y sgiliau cywir.
Mae uchafbwyntiau’r prosiect yn cynnwys:
- Cefnogwyd 241 o fusnesau ledled Cymru:
- 139 Micro
- 65 BBaCh
- 37 o Sefydliadau Mawr
- Mae 3,294 o fuddiolwyr wedi cwblhau cwrs hyfforddi
- Cefnogwyd dros 8,000 o ddiwrnodau hyfforddi
- Manteisiodd dros 100 o fusnesau ar yr Hysbysfwrdd Swyddi a ariannwyd yn llawn gyda dros 2,000 o swyddi gwag wedi’u postio
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wales@lantra.co.uk