Tyfu Cymru

Bydd Tyfu Cymru yn datblygu grym a gallu’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru. Drwy weithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi, bydd yn paratoi tyfwyr a chwmnïau garddwriaeth sy'n eiddo i gynhyrchwyr ledled Cymru i addasu i heriau amgylcheddol y dyfodol, ac i fod mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad ar gyfer twf a datblygu busnes. 

Dan arweiniad Lantra, gan gydweithio â’r partneriaid allweddol, sef Planed, Puffin, Glyndŵr ac ADAS – a gyda chyllid gan gynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi Llywodraeth Cymru – mae’r prosiect yn rhoi cyfuniad o arweinyddiaeth strategol, cyfleoedd datblygu sgiliau, hyfforddiant a chymorth wedi'i deilwra i anghenion y diwydiant.

 

Rydym yn cynnig:

  • Cyfleoedd datblygu sgiliau a hyfforddiant arloesol wedi'u cyllido, yn seiliedig ar Asesiad Sgiliau Hyfforddi
  • Rhaglen cronfa dalent ym maes garddwriaeth
  • Cymorth clwstwr a chadwyn gyflenwi
  • Pwynt gwybodaeth canolog a llais ar gyfer y diwydiant.

 

Ydych chi’n gymwys?

Mae Tyfu Cymru yn cael ei gyllido i gefnogi garddwriaeth fasnachol i dyfu a gweithredu yng Nghymru. Mae’n rhaid i chi fod yn tyfu’n fasnachol ac wedi cofrestru fel unig fasnachwr, partneriaeth neu gwmni cyfyngedig, bod yn weithredol ac yn cynhyrchu trosiant, gan allu cyflwyno tystiolaeth o hyn.

Er nad oes meini prawf penodol o ran trosiant nac arwynebedd tir, er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i fusnesau ddangos eu bod yn bwriadu ymwneud â’r prosiect, bod yn rhan o fesur llwyddiant a darparu gwybodaeth berthnasol i Tyfu Cymru drwy gydol cyfnod y prosiect at ddibenion adrodd.  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch i ddechrau ag Alice Coleman, Cydlynydd y Gadwyn Gyflenwi a Chydweithfa Garddwriaeth.  Rhif ffôn: 07557 379669 neu Lantra Cymru ar 01982 554 384.

Cewch weld beth rydym yn ei wneud drwy ddilyn Tyfu Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol:

EAFRD Logo