Mae Cyswllt Ffermio yn Wasanaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Chynghori ar gyfer busnesau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Lantra sy'n arwain ar gyflwyno'r Rhaglen Dysgu Gydol Oes a Datblygu sydd â phedwar allbwn allweddol:
- Cynllun Datblygu Personol Cyswllt Ffermio ar-lein (PDP)
- Fframwaith ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer y sectorau Ffermio a Choedwigaeth
- Datblygu a darparu pecynnau e-ddysgu achrededig i'r sectorau ffermio a choedwigaeth
- Darparu hyfforddiant ac asesiad achrededig â chymhorthdal drwy rwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant
- Hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid – Datblygu modiwlau hyfforddi achrededig ar y cyd â'n partneriaid cyflenwi NADIS ac a gymeradwywyd gan Wobrau Lantra. Mae'r cyrsiau'n cael eu hariannu'n llawn ac fe’u darperir gan filfeddygon lleol ledled Cymru.
Am fwy o wybodaeth am sut i gofrestru, ac am y rhestr lawn o'r gwasanaethau sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i fusnesau yng Nghymru.
Garddwriaeth – "Tyfu ar gyfer twf"
Bydd rhaglen arddwriaeth newydd Cyswllt Ffermio yn rhoi'r cymorth, yr arweiniad a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i gyflawni eich nodau. Wedi'i lansio yn Ebrill 23, mae'n wasanaeth ychwanegol pwysig o fewn rhaglen newydd Cyswllt Ffermio, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Lantra Cymru.
Cefnogi Busnesau Garddwriaeth Fasnachol:
- Helpu i feithrin capasiti, cwmpas a gallu Sector Garddwriaeth Cymru
- Darparu cymorth busnes, mentora a sgiliau i dyfwyr confensiynol ac organig i'w galluogi i addasu i heriau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd
- Hwyluso cydweithio rhwng cynhyrchwyr, proseswyr a chadwyni cyflenwi sy'n ymwybodol o'r amgylchedd i ddarparu mantais gystadleuol
- Manteisio ar gyfleoedd marchnad ar gyfer datblygu busnes a thwf
- Cadw i fyny â'n rhaglen o gefnogaeth, digwyddiadau penodol i'r sector a hyfforddiant a arweinir gan alw, gyda'r nod o'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd effeithlon, cynaliadwy a chost-effeithiol o weithio
- Rhwydweithio gydag unigolion o’r un anian, rhannu eich gwybodaeth, a dysgu o arfer gorau.